S4C_Black Template LogoDatganiad ar ran Awdurdod S4C

 

 

Mae aelodau Awdurdod S4C wedi ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd fel rhan o'r ymarfer canfod ffeithiau a gynhaliwyd gan Capital Law i amgylchedd gwaith S4C. Dechreuwyd yr ymarfer yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gyda ni gan BECTU ym mis Ebrill 2023. Mae'r dystiolaeth a welsom yn adlewyrchu barn a phrofiadau 96 o bobl sy'n staff presennol neu gyn-aelodau o staff S4C neu'n bartneriaid y mae'r sefydliad yn gweithio gyda nhw. Hoffem ddiolch i'r rhai a oedd yn teimlo y gallent ddod ymlaen am fod yn agored a pharod i rannu eu profiadau.

 

Roedd natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr. Yn ddi-os, mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o unigolion. Fel Aelodau o'r Awdurdod, hoffem ymddiheuro am y straen a'r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle.

 

Mae’n amlwg o’r dystiolaeth a dderbyniwyd bod angen cymryd camau i sicrhau newid o fewn S4C ac mae yna lawer i’w wneud i ddelio gyda’r holl faterion sy’n codi o’r wybodaeth a dderbyniwyd. Mae Awdurdod S4C yn ymrwymiedig i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein staff yn hapus ac yn ddiogel – lle mae nhw’n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu. Rydym yn cydnabod bod angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad – nid yn unig ymhlith ein staff ond gyda’n partneriaid yn y sector creadigol, cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

 

Er mwyn i ni ddechrau gwneud gwelliannau mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar unwaith. Felly, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol manwl, gwnaeth aelodau Awdurdod S4C y penderfyniad anodd ond unfrydol i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr. Byddwn yn gweithio tuag at benodi arweinydd newydd a all helpu i adfer S4C uchelgeisiol gyda ffocws o’r newydd ar gydweithio a llesiant ein cydweithwyr.

 

Nid yw'r rhain byth yn benderfyniadau hawdd i'w gwneud. Fodd bynnag, rydym ni, fel Aelodau Awdurdod S4C, yn hyderus mai dyma'r penderfyniad cywir i'r sefydliad.

 

Mae hwn yn fater sensitif, a rhaid inni ddilyn proses briodol. Fel Awdurdod S4C mae angen inni gydbwyso’n ofalus ein rhwymedigaethau mewn perthynas â thryloywder â llesiant pawb sy’n gysylltiedig â’r mater yma, a byddai’n amhriodol ychwanegu unrhyw beth at y datganiad hwn ar hyn o bryd am y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw.

 

Maes o law, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy’n egluro ymhellach natur y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod y broses canfod ffeithiau, y penderfyniadau a wnaed a’r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod S4C yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a ffyniannus.